Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 7
Rhagfyr 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(15 munud)
4 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Heledd Fychan (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddata cyfrifiad 2021 am sgiliau Cymraeg sy’n dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi gostwng am yr ail ddegawd yn olynol?
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd mewn achosion o grŵp A streptococcus mewn ysgolion?
Rhun ap Iorwerth (Ynys Mon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymateb y Llywodraeth i fygythiadau o weithredu diwydiannol ar draws GIG Cymru, ac ar ei chynlluniau i geisio osgoi'r fath o weithredu drwy negodi?
5 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
6 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
(30 munud)
NDM8093 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig am Fil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau yn BSL.
2. Yn nodi mai pwrpas y Bil fyddai:
a) cael gwared ar y rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle;
b) cryfhau saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y modd y maent yn ymwneud â BSL;
c) gweithio tuag at sicrhau nad yw pobl fyddar sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg;
d) sicrhau bod gan gymunedau byddar lais wrth ddylunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion;
e) sefydlu Comisiynydd BSL a fydd yn:
(i) llunio safonau BSL;
(ii) sefydlu panel cynghori BSL;
(iii) llunio adroddiadau bob pum mlynedd yn BSL, Cymraeg a Saesneg ar sefyllfa BSL yn y cyfnod hwnnw;
(iv) darparu arweiniad a phroses i gyrff cyhoeddus hyrwyddo a hwyluso BSL yn eu priod barthau;
f) sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion;
g) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd ar eu cynnydd o ran hyrwyddo a hwyluso BSL drwy eu cylch cofnodi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
h) rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol BSL sy'n disgrifio'r hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i hyrwyddo'r defnydd o BSL.
7 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - Cyfraith Mark Allen: Diogelwch dŵr ac atal boddi
(30 munud)
NDM8157 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Cyfraith Mark Allen Diogelwch dŵr ac atal boddi', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Awst 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd 2022.
8 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith - Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd
(30 munud)
NDM8158 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad ar weithrediad y mesurau interim diogelu'r amgylchedd’, a osodwyd ar 28 Medi 2022.
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd 2022.
9 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant
(30 munud)
NDM8160 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu adolygiad annibynnol o ofal cymdeithasol plant yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol plant heb fod angen adolygiad annibynnol a fyddai'n cymryd adnoddau gwerthfawr ac yn tarfu ar y gwaith rhagorol a wneir gan y rhai sy’n darparu gwasanaethau i blant agored i niwed, eu rhieni a'u gofalwyr.
10 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar
(30 munud)
NDM8161 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y pryderon difrifol a fynegwyd gan ddarparwyr llety hunanddarpar ledled Cymru ynghylch y cyfnod asesu ar gyfer penderfynu ar gymhwystra ar gyfer cymhwyso ar gyfer ardrethi busnes yn 2022-2023, a diwygio'r rheoliadau yn unol â hynny.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod:
a) bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori’n eang ynghylch newidiadau i’r meini prawf a ddefnyddir i gategoreiddio llety hunanddarpar fel eiddo annomestig at ddibenion treth lleol, a fydd yn dod i rym o fis Ebrill 2023.
b) na chaiff cydymffurfiaeth â’r meini prawf newydd ei hasesu tan ar ôl 1 Ebrill 2023.
c) bod y newidiadau hyn yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi cymunedau lleol llewyrchus, lle y gall pobl fforddio byw a gweithio gydol y flwyddyn.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan ddarparwyr llety hunanddarpar, sydd dan bwysau o ganlyniad i blatfformau fel AirBnB.
2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gynnal argymhellion yr ymgynghoriad diweddar i sicrhau y gellir gwahaniaethu rhwng llety hunanddarpar gwirioneddol ac eiddo domestig o safbwynt trethi lleol.
11 Cyfnod Pleidleisio
12 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8159 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Breuddwydion atomig: pŵer niwclear a ffydd ddall mewn technoleg sy'n heneiddio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 13 Rhagfyr 2022